O Butetown i'r Byd
Os gall y byd ddod i Gymru, beth am i Gymru fynd at y byd?
Ardal fechan yw Butetown, milltir o hyd a dim ond pedair stryd o led. Gyda phoblogaeth o ddim mwy na 2000, Butetown yw un o ardaloedd mwyaf amrywiol ac aml-ddiwyllianol Caerdydd.
Mae cenhedloedd a diwylliannau o bob cwr o’r byd yn byw yma. Am ddeng mlynedd, bum yn warden Cynllun Tai Gwarchod Nelson House (adeiladau gyda 73 o fflatiau). Yno, roedd 12 o genhedloedd a saith gwahanol iaith yn cael eu siarad. Nid dweud yr ydw i nad oedd byth unrhyw gweryla na ‘chwympo mas’ rhwng cymdogion fel unigolion, ond rwy’n dweud y gwir pan ddywedaf nad oedd yno fyth elyniaeth na chwerwder rhwng diwylliannau. Ers cenedlaethau mae Butetown wedi mwynhau cytgord ethnig a diwylliannol.
Mae fy marn i am le Cymru yn y byd felly yn drwm dan ddylanwad byw mewn cymysgfa ddiwylliannol, dafliad carreg oddi wrth ein democratiaeth Gymreig yn adeilad hardd y Senedd.
Mae llawer o bobl yn credu na allai Cymru fod yn annibynnol, gan edrych ar Gymru fel gwlad rhy fach, a dweud na fyddai modd i ni oroesi. Ond mae Malta yn llai na Chymru ac y mae hi’n wlad annibynnol!
Fuaswn i ddim eisiau gweld Cymru yn annibynnol ac wedi ei hynysu oddi wrth weddill y byd: byth! Fe garwn i weld Cymru annibynnol ar flaen y gad yn Ewrop ac i Gymru gael ei chydnabod ledled y byd fel gwlad yn ei hawl ei hun, nid fel rhywle sydd dim ond ‘drws nesaf i Loegr’.
Pan fyddwn ni’n teithio o gwmpas y byd, mae pobl yn gofyn “o lle’r ydych chi’n dod?” Dyma ni’n dweud wrthyn nhw mai o Gymru yr ydym ni’n dod. Pan fydd pobl yn clywed ein hacen, y cwestiwn nesaf fel rheol yw: A yw Cymru yn Lloegr? Y ffordd hawsaf o esbonio yw dweud: Na, mae Cymru drws nesaf i Loegr – rydym yn defnyddio’r un arian â Lloegr ac yn rhannu’r un Frenhines! Mae pobl yn dueddol o ddeall esboniad felly. Yna fe ddaw’r cwestiwn nesaf: oes yna lawer o bobl dduon yng Nghymru? Oes, meddaf innau, miloedd!
Felly dyma ddau gwestiwn i chi:
1. Os daeth miloedd o bobl o bedwar ban byd i ymgartrefu yn Butetown oherwydd dociau Caerdydd, porthladd byd-enwog, pam na all holl bobl Cymru sefyll ar eu traed, bod yn falch, yn annibynnol a chael eu cydnabod ledled y byd?
2. A ydym fel Cymry yn rhy swil i wthio Cymru ymlaen ar ol cael ein esgeuluso am ganrifoedd?
Atebion ar gerdyn post, os gwelwch yn dda.
Liz Musa
Helpwch ni i feithrin cenhedlaeth GallCymru. Bydd eich rhodd yn helpu'r ymgyrch tuag at annibyniaeth.

Sylwadau diweddar
Dangosir sylwadau Cymraeg yn unig.