Newid Cymru
Mae gwleidyddiaeth Cymru wedi newid, ond beth yw'n gweledigaeth i'r dyfodol?
Mae gwleidyddiaeth yng Nghymru wedi newid yn ddramatig dros y ddegawd ddiwethaf. Pwy fuasai wedi meddwl, o ennill y bleidlais ‘ie’ ym 1997 o 6,721 pleidlais yn unig, mai dim ond 15% o bobl bellach fyddai am ddychwelyd i’r setliad fel yr oedd cyn datganoli? Mae mwyafrif llethol pobl Cymru yn awr yn gryf o blaid datganoli.
Bu’r academydd Marcsaidd o’r Alban Tom Nairn wedi bod yn dadlau ers dros 30 mlynedd y bydd yn anorfod i Brydain chwalu. Yn fwy diweddar, mae’n cyfeirio at y refferenda datganoli yn y ddwy a hanner o’r pedair gwlad sy’n ffurfio Ynysoedd Prydain i ddangos ei fod yn iawn. Mae’n dadlau y bydd datganoli yn creu ei fomentwm ei hun, a bod dyfodol Prydain ar ben. Y cwestiwn nad oes modd ei ateb yw faint sydd ganddi ar ôl?
Mewn ymateb i hyn, mae ‘Prifardd Prydeindod’ Gordon Brown a’i gyfeillion Llafur Newydd yn chwarae cerdyn “Rule Brittania” mewn ymgais wyllt i geisio cryfhau hunaniaeth Brydeinig sydd ar fin diflannu. Mae “Swyddi Prydeinig i Bobl Brydeinig”, ei lapio ei hun yn Jac yr Undeb, awgrymiadau am ddiwrnod Prydeinig (ar Ddydd Sant Siôr) a motto Prydeinig yn mynd ochr yn ochr â rhethreg gwrth-fewnfudwyr a mynnu fod pawb yn siarad Saesneg. I’r rhan fwyaf ohonom yng Nghymru, mae blas go sur ar y math hwn o siarad. Yn fy marn i, mae’n amherthnasol os nad yn dramgwyddus i lawer o bobl yn y pedair gwlad.
Yn y cyfamser, mae grŵp o “wladgarwyr Seisnig blaengar” sydd yn cytuno â damcaniaeth chwalu Nairn. Maent yn gweld yr Alban a Chymru eisiau eu rhyddhau eu hunain o reolaeth San Steffan, ac efallai hefyd Iwerddon rydd ac unedig un dydd. Maent eisiau gofalu na chymysgir Lloegr â Phrydain, ac nad yw eu cenedl yn cael ei gadael ar ôl. Ar yr un pryd, maent yn ymwybodol iawn o’r angen i gyplysu eu gwladgarwch/cenedlaetholdeb â safbwynt gwrth-hiliol, ac y maent yn awyddus hefyd i ymbellhau oddi wrth ymateb Llafur Newydd i ddatganoli yn ogystal ag oddi wrth y pleidiau ffasgaidd. Mae’n ddatblygiad diddorol sydd yn haeddu sylw a chefnogaeth gan genedlaetholwyr Cymreig, Albanaidd a Gwyddelig. Os tyf y galw am Senedd Seisnig, cyflymu wnaiff y symud tuag at annibyniaeth i genhedloedd Prydain.
Yr hyn a achosodd lwyddiant y trafodaethau clymbleidio oedd cefnogaeth Llafur i bleidlais Ie mewn refferendwm ar Senedd ddeddfwriaethol. Os enillwn y bleidlais honno, ni fydd gennym o hyd ond rhan fechan o’r pwerau sydd gan Senedd yr Alban ar hyn o bryd. Byddwn yn medru deddfu yn rhydd ar faterion sydd wedi eu datganoli yn awr, fyddai’n amlwg yn well na’r sefyllfa anfoddhaol bresennol lle gall San Steffan rwystro cyfreithiau Cymreig. Ond ni fyddai gennym bwerau dros gyfiawnder troseddol nac unrhyw wir rym macro-economaidd. Ni fydd gennym chwaith unrhyw fodd o godi ein refeniw ein hunain.
Erys Cymru ar waelod tabl perfformiad economaidd y DG tra bod dinas Llundain yn dal i wyro ei pholisi economaidd er budd yr ardaloedd sydd yn ei chyffiniau hi, mae’r ymylon ar eu colled. Gyda hanes o gynhyrchu diwydiannol sylweddol, fe ddylai Cymru yn awr fod yn gyfoethog. Ond yr ardaloedd a gynhyrchodd cyfoeth Prydain sydd heddiw ymysg rhai o’r rhai mwyaf economaidd difreintiedig yn yr Undeb Ewropeaidd. Dyma’r ardaloedd a dargedwyd gan Thatcher yn ei hobsesiwn i ddifa pwerau’r undebau, ac a anghofiwyd wedyn. A’r ardaloedd hyn yn awr sydd yn wynebu tlodi pellach yn sgil cynlluniau tâl rhanbarthol Llafur Newydd, eu toriadau yn y gwasanaeth sifil a thorri i lawr ar fudd-daliadau salwch. Does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Gallai llywodraeth annibynnol yn gyfrifol am ddwy filiwn a chwarter o bobl roi llawer gwell trefn ar anelu polisi macro -economaidd i ateb anghenion pobl yn ardaloedd ôl-ddiwydiannol a gwledig Cymru. Mae’n amlwg nad yw cyfres o lywodraethau San Steffan wedi ystyried yr anghenion hynny.
Os yw gwyddonwyr yn iawn am begwn olew, a gallwn fod yn hyderus fod gwyddonwyr yn unfarn am newid hinsawdd, yna bydd yn rhaid i’r modd y mae economïau yn gweithio newid. Fe ddaw ynni, bwyd a dŵr yn gynyddol bwysig, ac y mae’r economi yn gorfod adlewyrchu hynny. Os bydd prisiau olew yn dal i godi fel y gwnaethont yn ddiweddar, fe’n gorfodir i ailfeddwl am y modd yr ydym yn cael ein hynni ac yn ei ddefnyddio. Pan dorrwyd cyflenwad ynni Cuba pan chwalodd yr Undeb Sofietaidd, collodd pobl Cuba 30 y cant o bwysau eu cyrff mewn blwyddyn. A fedrwn ni fforddio peidio â chynllunio ar gyfer gostyngiad dramatig yn swm yr ynni sydd ar gael a’r oblygiadau posibl?
Mae Cymru mewn sefyllfa wych i ddod yn hunangynhaliol mewn ynni. Mae gennym arfordir helaeth gyda chyfle i harneisio’r llanw. Mae gennym ddigon o wynt, glaw, mawnogydd a chefn gwlad agored. Gallai cynllun tymor-hir i ehangu ymchwil a datblygu, buddsoddi mewn sgiliau newydd a hyfforddiant, a chefnogaeth gan y llywodraeth i fusnesau bychain Cymreig i gynhyrchu microgeneraduron, osod y seilwaith. Byddai modd cyplysu hyn â rhaglen genedlaethol o godi ymwybyddiaeth, cymhellion i leihau defnyddio, a thyfu a phrynu bwyd lleol. Gallai bod yn hunangynhaliol mewn bwyd ac ynni fod yn allwedd i hunanlywodraeth. Yn ôl y WWF, Cuba yw’r unig wlad gynaliadwy yn y byd. Gallwn ddysgu llawer gan bobl Cuba.
Mae ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, a’r consensws amdano, yn cynyddu. Mae prisiau olew yn gorfodi pobl i feddwl am ddewisiadau eraill, tra bod traddodiad gwrth-niwcliar cryf yng Nghymru. Mae pegwn olew a helyntion hinsawdd wedi atgoffa rhai ohonom yn y Blaid fod angen i ni ddadlau’r achos dros hunanlywodraeth yn gliriach nac erioed o’r blaen.
Gweledigaeth sydd ar goll o wleidyddiaeth heddiw. Ni ddylai fod yn anodd gwerthu gweledigaeth o Gymru heb danwydd ffosil a niwclear. Gyda’r dadleuon dros hunanlywodraeth, gall Plaid Cymru gynnig gweledigaeth o Gymru wahanol, mwy cyfartal a chynaliadwy, ac un a all ysbrydoli’r genhedlaeth iau. Gyda’r ddadl am annibyniaeth yn fyw yn yr Alban, ni all Plaid ganiatáu i Gymru gael ei gadael ar ôl. Rhaid dechrau meddwl ac ymgyrchu am well Cymru wedi Prydain yn awr.
Leanne Wood
Helpwch ni i feithrin cenhedlaeth GallCymru. Bydd eich rhodd yn helpu'r ymgyrch tuag at annibyniaeth.

Sylwadau diweddar
Dangosir sylwadau Cymraeg yn unig.
Plaid yw'r blaid i Gymru. Ceisiwch Annibyniaeth.