GallCymru – fforwm ar ddyfodol y genedl
Mae Ieuan Wyn Jones yn croesawu sefydlu GallCymru fel fforwm i ddadlau a thrafod
Mae poliau yn ddiweddar wedi dangos fod mwyafrif o bobl Cymru yn awr yn cefnogi mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru – er mwyn gofalu bod ganddi’r holl arfau angenrheidiol i gyflawni er mwyn pobl Cymru ac i ddwyn llywodraeth yn nes at y bobl.
Fel rhywun a roes ei fywyd i geisio cael y fargen orau i bobl Cymru, rwy’n cydnabod fod Cymru ar daith sy’n golygu newid a hunan-ddarganfod yn wleidyddol ac yn gymdeithasol.
Rwyf wedi gweld y newid hwn yn ystod fy nghyfnodau fel AS ac AC.
Mae’r amser wedi hen fynd heibio pan oedd pobl yn dadlau yn erbyn i Gymru gael hunanlywodraeth, ac y mae llywodraeth Cymru’n Un yn awr yn paratoi’r tir i symud tuag at refferendwm ar bwerau deddfu i’r Cynulliad.
Yn ystod y trafodaethau hyn, mae cwestiynau yn cael eu codi’n aml am nod tymor hir Plaid Cymru, sef annibyniaeth, er nad yw hwn yn un o’r dewisiadau sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd.
Gan gadw hynny mewn cof, penderfynodd Plaid Cymru beidio ag osgoi cwestiynau a all weithiau fod yn anodd ac sy’n codi yn sgil dyhead cyfansoddiadol tymor-hir y Blaid.
Yn hytrach, rydym wedi lansio’r wefan hon, GallCymru, i roi cyfle i bobl Cymru gyfnewid barn a syniadau am sut olwg fyddai ar Gymru annibynnol yn y dyfodol.
Mae’n fforwm ar gyfer trafod e-polis cyfoes – lle mae modd gwyntyllu llawer barn wahanol, ac ymchwilio i syniadau; lle gall dinasyddion Cymru ymwneud ag amlinellu Cymru’r dyfodol; lle gallwch chi gael dweud eich dweud.
Gobeithio y bydd y wefan hon yn fforwm i ddadl ac i drafodaeth am ein statws yn y dyfodol fel cenedl ac y byddwch yn lleisio eich barn am y cwestiwn mwyaf sylfaenol hwn o le Cymru yn y byd. Mae’n bryd i chi ddweud eich dweud.
Ieuan Wyn Jones
Helpwch ni i feithrin cenhedlaeth GallCymru. Bydd eich rhodd yn helpu'r ymgyrch tuag at annibyniaeth.

Sylwadau diweddar
Dangosir sylwadau Cymraeg yn unig.
I gyflymu'r proses rhaid tanio dychymyg pobl i ffwrdd o'r sinigiaeth a grëir gan yr aneffeithioldeb a llygredd Sain Steffan. Felly dyma beth hoffwn weld:-
- Cymru democrataidd. Rhaid ethol nid apwyntio'r llywodraeth. Ni ddylid cymysgu y aelodau seneddol ag unrhyw ran arall o lywodraeth (sef dim ond un swydd).
- Os bydd ail dy bydd yn ranbarthol; un i bob chwarter o Gymru i gyferbynnu'r Senedd ac â phwerau megis dros y system barnwrol.
- Canolfan barnwrol yn Aberystwyth.
- Canolfan Ariannol ym Mangor/Caernarfon.
- Datganoli canolfannau llywodraeth le posibl.
- Lluoedd amddiffyn ar gyfer amddiffyn. Dim offer megis llongau gludo awyrennau am eu bod yn ymosodol.
- Y pobl i benderfynu ar statws y brenhiniaeth ond os bydd y genedl o'u plaid bydd yn rhaid i'w hethol yn rheolaidd.
- Neb sy'n dal swydd etholedig i gael unrhyw swydd arall ar wahân, efallai i ffermydd bychain teuluol.
- Dim amddiffyn arbennig i bobl etholedig o weithred y gyfraith mewn unrhyw ffordd ar wahân o fod yn y senedd mewn sefyllfaoedd arbennig a chyfyngedig.
- Ni fyddai un blaid, neu glymblaid yn gallu rheoli bob adran o'r llywodraeth ar yr un pryd (senedd, llywodraeth ac ail dy).
- Cyflogau pawb etholedig, a phrif gweinyddwyr sifil, yn perthyn i gyfartaledd cyflogau'r pobl.
- Hawl i etholwyr "galw'n ôl" etholiad os na fyddant yn hapus gyda'r person a etholwyd.
Beth hoffech weld?
Petai Cymru’n costio Lloegr byddem yn annibynnol ers canrifoedd!
Drwy fod yn genedl annibynol gallwn ni fod yn fwy gyfoethog yn ein diwylliant, diwydiant a penderfynu pa ffordd rydym ni am ei cymeryd.
Gall llywodraeth sydd heb ddim diddordeb am Cymru ddim llywodreuthu Cymru. Tydio ddi yn gwneud synwur.
Wrth hawlio rhyddid i'n cenedl, rydw i'n gobeithio ei'n bod yn agor ei'n breichiau i weddill y byd, i Ewrop fel endid syn parchu pob cenedl ac er mwyn sicrhau economi ffyniannus a chydraddoldeb byd-eang.
Yr egwyddor, ei'n bod yn dianc o grafangau Llundain, ac ar yr un pryd, y nod yn y pendraw yw dod yn rhan gyflawn o'r gymdeithas fyd eang. *Ac felly dylid pwyslais ein hymgyrch fod.