Cymru: cymuned o gymunedau
Mae Myfanwy Davies yn edrych ar sut byddai annibyniaeth yn effeithio ar ei chymuned hi – Llanelli
Daeth yn boblogaidd dweud mai cymuned o gymunedau yw Cymru, ac fel darlun bach, mae fy Nghymru i yn ymestyn o’r Hendy uwchben yr afon Llwchwr yn y dwyrain i bentrefi diwydiannol Tŷ Croes a’r Gwendraeth i lawr at Lanelli, Porth Tywyn a Chydweli ar hyd aber yr afon. Dyma’r Gymru yr wyf i’n ei charu ac eisiau ei gwasanaethu.
Rwyf eisiau i Gymru fod yn annibynnol oherwydd dim ond trwy wneud ein penderfyniadau ein hunain fel cenedl y gallwn gael bargen deg i Lanelli a chymunedau tebyg. Dim ond trwy annibyniaeth y gallwn chwarae’r rhan y mae angen i ni ei chwarae yn y byd ehangach.
Mae rhan ohonof yn credu mewn annibyniaeth er ei fwyn ei hun.
Byddai’n fodd i wella clwyfau canrifoedd o gamfanteisio a gwaseidd-dra. Byddai datganiad annibyniaeth Gymreig yn rhoi terfyn ar hanes truenus rhieni yn gwrthod trosglwyddo’r iaith i’w plant fel petai’n nod Cain fyddai’n eu gwneud yn llai deallus, yn llai galluog ac yn llai dawnus nac eraill.
Byddai Cymru annibynnol yn gwireddu breuddwydion y gweithwyr a gododd y capeli a neuaddau’r gweithwyr, sef y sefydliadau dinesig cyntaf fu gan eu cymunedau. Bydd annibyniaeth yn ein gwneud yn fwy balch, ond mae’n fwy na hynny. Mae annibyniaeth yn fater o ofalu bod ein cymunedau yn goroesi mewn byd sy’n wynebu argyfwng ariannol lle mae penderfyniadau anghyfrifol yn Llundain yn eu peryglu.
Efallai y byddwn yn wynebu toriadau o hyd at £500m mewn gwario cyhoeddus yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Daw hyn ar ben anghyfiawnder fformiwla Barnett sydd yn gweithio allan gyllideb y Cynulliad ar sail cyfrif pennau yn hytrach nac asesu anghenion. Y rheswm am y cylch newydd hwn o doriadau yw ein bod yn gorfod talu am achub y banciau.
Mae cannoedd o swyddi gweithgynhyrchu yn Llanelli dan fygythiad; achubwyd rhai ohonynt gan gynllun “ProAct” Llywodraeth y Cynulliad. Gwelsom gynnydd enfawr mewn adfeddiannu tai yn Llanelli ers dechrau’r argyfwng, ac yn sicr, bydd cynllun achub morgeisio’r Cynulliad a’r £1 miliwn a neilltuwyd i orffen prosiectau tai fforddiadwy yn y sir wedi helpu pobl i gadw eu tai. Nid yw’r arian sydd y tu ôl i’r cynlluniau hyn ond cyfran bitw o’r £50bn sydd eisoes wedi ei sianelu i’r banciau, ond sydd heb ddangos fawr o effaith ar fenthycwyr a busnesau bychain yn Llanelli sydd yn dal i weld gorddrafftiau yn cael eu galw i mewn, a hwythau wedi bod yn ad-dalu’n ffyddlon.
Mae’r sector cyhoeddus yn darparu mwy o swyddi pro rata yng Nghymru nac yng ngweddill y DG felly caiff y toriadau hyn fwy o effaith yma. Bydd hyn yn ergyd farwol i ymdrechion i hybu’r farchnad mewn nwyddau a gwasanaethau yng nghymunedau tlotaf Cymru, llefydd fel Llanelli lle mae’r economi yn dal heb ddatblygu cymaint ag yn rhanbarthau eraill Cymru a’r UE ar waethaf ail rownd y cyllid a fwriadwyd i gau’r bwlch hwnnw. Credaf y dylai diogelu swyddi yn y sector cyhoeddus yn awr fod yn flaenoriaeth i lywodraeth y DG, ond hyd yn oed petai fy AS yn cytuno â mi, a hyd yn oed petai pob AS Cymreig yn cytuno â mi, dim ond 40 llais fydden nhw wedyn ymysg 600.
Wrth gwrs, nid yw’r ASau Cymreig yn gweithredu fel bloc, gan fod angen i’r mwyafrif ddilyn eu penaethiaid yn Llundain. Serch hynny, pan oedd Corfforaeth Lerpwl eisiau boddi Cwm Tryweryn i gyflenwi dŵr i’r ddinas, fe wnaeth yr Aelodau Seneddol Cymru bleidleisio ynghyd, ond golygodd rhifyddeg syml San Steffan nad oedd eu llais yn cyfrif. Boddwyd Tryweryn, a symudwyd y bobl.
Os credwn ni fel pobl Cymru fod gennym brofiadau a gwerthoedd yn gyffredin, sut mae modd yn y byd i ni gredu y gall llywodraeth San Steffan fyth ein cynrychioli?
Nid mater o gau’r byd allan yw annibyniaeth, ond yn hytrach dod i oed ar ein telerau ein hunain, ac yn awr, yn fwy nac erioed, mae’n fater o amddiffyn ein hunain a’n gilydd.
Fel gyda threfi eraill yng Nghymru, mae canol trefi Llanelli a Phorth Tywyn yn gwaedu busnesau wrth i siopau mwy symud allan i safleoedd ar y cyrion. Mae Deddf Cymunedau Cynaliadwy 2007 yn ddeddfwriaeth sy’n gymwys i Loegr yn unig sy’n galluogi Cynghorau Sir a phobl leol i benderfynu ar strategaethau i hybu busnesau lleol, tai fforddiadwy ac i fanteisio ar gyllid i yrru’r strategaethau hynny yn eu blaenau. Os ydym ni am allu defnyddio’r pwerau hyn, bydd angen i’r Cynulliad gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Mae’r gorchmynion hyn yn gofyn i San Steffan am y pwerau i wneud penderfyniadau ar faterion sydd o fewn cylch gorchwyl y Cynulliad. Ar hyn o bryd, y mae’r broses o benderfynu ar Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol neu GCD yn golygu dim llai na 27 cam. Mae hon yn sefyllfa chwerthinllyd lle cymerodd GCD ar asesu anghenion gofalwyr am gefnogaeth y gwasanaethau cymdeithasol ddwy flynedd i’w brosesu. Yn ystod yr amser hwnnw, yr oedd teuluoedd y gwn i amdanynt dan straen aruthrol o ddarparu gofal cyson di-dor heb seibiant na gwasanaethau cefnogi yn cael eu darparu gan y Cyngor Sir am nad aseswyd eu hanghenion. Y mae ar ein Cynulliad ni, y pleidleisiom ni drosto, angen yr arfau i wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnom ni a’n cymunedau yn awr, nid ymhen dwy flynedd. Nid oes modd amddiffyn y sefyllfa bresennol, am ei bod yn gorffwys ar y rhagdyb nad yw’r sawl sy’n gwneud ein deddfau ni yn gymwys i wneud yr un penderfyniadau y mae ASau yn eu gwneud.
Wrth gwrs y gallwn wneud ein penderfyniadau ein hunain. Doedd dim angen erioed i San Steffan ddal ein dwylo, ac yr ydym wedi profi trwy’r camau call a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i ymdrin â’r argyfwng economaidd ein bod yn fwy na medrus i’n rheoli ein hunain.
Nid wyf i’n meddwl fod unigolyn yn dewis ei genedligrwydd yn hollol rydd. Mae magwraeth, addysg a’r cyfleoedd sydd ganddynt yn eu bywydau yn chwarae rhan yn eu hunaniaeth. Serch hynny, rwy’n credu ymadrodd Gwynfor Evans pan ddywedodd fod bod yn Gymro neu yn Gymraes yn ddewis yr ydych yn rhydd i’w wneud os ydych yn hapus i fyw gyda’r canlyniadau. Rhaid i ni ddod allan o dan gysgod San Steffan sydd wedi tagu twf economaidd yng Nghymru trwy dorri ar wario cyhoeddus a’n hatal rhag cymryd y penderfyniadau sydd yn effeithio’n sylfaenol ar y modd y mae pobl yn byw yng Nghymru. Fe wyddai’r dynion a’r merched gweithiol a gododd ein sefydliadau cyntaf, er mwyn creu cyfleoedd yn eu cymunedau i addysgu, i drafod ac i fod yn greadigol, fod yn rhaid iddynt gamu allan o dan gysgod system oedd yn dweud mai dim ond gweithwyr oeddynt, a gweithredu fel aelodau meddylgar o gymuned a chenedl.
Dim ond trwy wneud ein penderfyniadau ein hunain mewn Cymru annibynnol y gallwn ni edrych ar ôl ein hunain a’n gilydd. Mae’n bryd camu mas i’r heulwen.
Myfanwy Davies
Helpwch ni i feithrin cenhedlaeth GallCymru. Bydd eich rhodd yn helpu'r ymgyrch tuag at annibyniaeth.

Sylwadau diweddar
Dangosir sylwadau Cymraeg yn unig.