Chwalu'r Chwedlau
Yn ôl rhai mae Cymru yn rhy fach ac yn rhy dlawd i fod yn annibynnol...
Chwedl #1: Mae Cymru yn rhy fach i fodoli fel gwlad annibynnol
Nid yw Cymru, gwlad o 3 miliwn o bobl, yn rhy fach i fodoli fel gwlad annibynnol. Mae’n ffaith fod dros 100 o wledydd eraill annibynnol yn y byd sy’n llai na Chymru. Mewn gwirionedd, o’r 10 gwlad gyfoethocaf o ran GDP y pen, mae gan 9 boblogaeth sy’n llai na 5 miliwn, ac o’r rheini mae gan 7 boblogaeth sy’n llai na Chymru.
O wledydd yr Undeb Ewropeaidd, mae’r chwech mwyaf ffyniannus yn wledydd bychain:
| Aelod-Wladwriaeth yr UE | GDP y pen (mewn PPP) | Poblogaeth |
| Lwcsembwrg | 58,900 | 0.5m |
| Iwerddon | 32,600 | 4.2m |
| Yr Iseldiroedd | 29,500 | 16.3m |
| Awstria | 28,900 | 8.3m |
| Denmarc | 28,600 | 5.4m |
| Gwlad Belg | 27,700 | 10.5m 1 |
Nid yw ffyniant economaidd bellach yn cael ei sicrhau trwy fod yn wlad fawr neu yn ymerodraeth, na thrwy ddefnyddio grym milwrol i gyrraedd marchnadoedd.
Nid oes cysylltiad bellach rhwng maint gwlad a’i llwyddiant economaidd.
Mae’n amlwg y gall gwlad fechan o faint Cymru ffynnu. Mae’r rhai sy’n dadlau i’r gwrthwyneb naill ai yn methu derbyn hyn, neu’n credu bod rhywbeth od am bobl Cymru sy’n golygu na allwn wneud i bethau lwyddo.
Chwedl #2: Oni fyddai diffyg cyllidebol Cymru yn rhy fawr iddi alli ymdopi?
Gan y DG mae’r diffyg cyllidebol mwyaf ar hyn o bryd yn y byd datblygedig. Mae’r ddadl fod Cymru yn cael mwy mewn gwario cyhoeddus nac mae’n dalu mewn trethi yn aml yn cael ei weld fel prawf na all Cymru dalu ei ffordd. Pan ystyriwch ddiffyg y DG gyfan nid yw’r ddadl hon yn dal dŵr.
Wrth gwrs mae aml i her economaidd anodd yn wynebu Cymru. Mae GVA Cymru ar hyn o bryd tua 77% o gyfartaledd y DG.
Yr her i’r sawl sy’n gwrthwynebu annibyniaeth ar y sail na all Cymru ei fforddio yw esbonio sut y mae bod yn rhan o’r Deyrnas Gyfunol wedi arwain at y sefyllfa economaidd wan hon.
Mae’n bwysig cofio fod Cymru yn hanesyddol wedi bod yn gredydwr i Drysorlys y DG ac wedi mwy na thalu ei ffordd dros y blynyddoedd. Wrth gwrs, wnaeth y cyfoeth a gynhyrchodd Cymru unwaith, ac a wnaiff eto, ddim aros yng Nghymru er lles ei phobl.
Chwedl #3: ‘Does dim ots gan bobl am annibyniaeth. Mae’n tynnu sylw oddi wrth wir bynciau sydd o bwys i bobl
Rydym ni’n credu fod annibyniaeth i bobl Cymru yn ganolog i economi a chymdeithas ffyniannus. Mae ansawdd gwasanaethau lleol, sicrwydd swyddi, tai fforddiadwy ac ati yn faterion sy’n effeithio ar fywydau pobl, ac mae’n well o lawer ymdrin â hwy gan Lywodraeth Gymreig etholedig ac atebol.
Chwedl #4: Rydym ni’n gryfach gyda’n gilydd – pam chwalu Prydain?
Mae’r label o ‘arwahanrwydd’ yn cael ei luchio o gwmpas yn aml gan wrthwynebwyr annibyniaeth Cymru. A yw nhw’n meddwl y byddwn ni rywfodd yn rhwygo Cymru ar wahân ar y ffin ac yn ei symud i rywle arall? Y gwir yw mai’r hollol wrthwyneb i arwahanwyr ydym ni; rydym eisiau bod yn rhan lawn o’r gymuned ryngwladol, yr Undeb Ewropeaidd a’r CU. Byddai Cymru annibynnol yn dal yn gymydog i wledydd eraill y Deyrnas Gyfunol. Bydd cysylltiadau cryf cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yn wastad rhwng pobl gwledydd y DG. Y gwahaniaeth fyddai y gallem fod yn bartner i’r gwledydd eraill gyda’n llais ein hunain yn cael ei godi. Byddai hyn yn gwneud y berthynas yn gryfach.
Chwedl #5: Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn teimlo’n Gymry Prydeinig a fyddan nhw byth eisiau annibyniaeth
Yn y byd modern mae’n anorfod y bydd gan bobl yng Nghymru lawer hunaniaeth. Peth personol yw hunaniaeth ac y mae ar wahân i faterion atebolrwydd democrataidd. Nid yw’ch hunaniaeth bersonol yn golygu o raid eich bod yn cefnogi ffordd arbennig o gael eich llywodraethu.
Chwedl #6: Mae annibyniaeth yn amherthnasol y byd modern sydd wedi globaleiddo
Mae rhyngddibyniaeth gwledydd yn un o ffeithiau bywyd modern. Rydym eisiau chwarae ein rhan yn y gymuned ryngwladol. Fel y dywedodd Winnie Ewing o’r SNP hi: “Stopiwch y byd, i ni gael mynd arno”. Mae globaleiddo nid yn unig yn gwneud Cymru annibynnol yn berthnasol, ond ei gwneud yn fwy posibl. Byddai Cymru annibynnol yn dod yn aelod llawn o sefydliadau byd-eang (CU, UE, SMB ac ati) a byddai bod yn rhan o economi byd-eang yn rhoi cyfle i Gymru ffynnu. Nid yw bod yn rhan o wlad neu ymerodraeth fawr bellach yn fantais economaidd; gall gwledydd bychain gyrchu marchnadoedd y byd hefyd.
Chwedl #7: Byddai Cymru yn cael ei throi allan o’r Undeb Ewropeaidd.
Cadarnhawyd yn swyddogol y byddai Cymru yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Cadarnhaodd cyn Ysgrifennydd Cyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd hyn wrth drafod achos yr Alban:
“Nid oes cynsail na darpariaeth i droi aelod-wladwriaeth allan, felly byddai annibyniaeth i’r Alban yn creu dwy aelod-wladwriaeth newydd allan o un. Byddai ganddynt statws cyfartal â’i gilydd a gydag aelod-wladwriaethau eraill.
Ni fyddai gweddill y Deyrnas Gyfunol mewn safle cryfach na’r Alban…. Mae unrhyw un sy’n ymosod ar hawl parthed un wlad yn ymosod ar hawl y llall. Nid oes modd rhannu’r achosion.”
Hefyd, dan egwyddorion Confensiwn Vienna ar Gyfraith Cytundebau Rhyngwladol, byddai Cymru yn aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, felly hefyd wledydd eraill y DG.
1 Ffeithiau a Ffigyrau Allweddol am Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd (Swyddfa Cyhoeddiadau swyddogol yr Undeb Ewropeaidd)
Helpwch ni i feithrin cenhedlaeth GallCymru. Bydd eich rhodd yn helpu'r ymgyrch tuag at annibyniaeth.

Sylwadau diweddar
Dangosir sylwadau Cymraeg yn unig.
Byddai Cymru annibynnol yn dewis blaenoriaethau gwariant ei hun, yn caniatáu gwariant llawer is na ffigyrau cyfredol ond yn cynnal a gwella ar safon gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, ni fyddai Cymru annibynnol yn gwario 15% o’i gyllid ar arfau niwclear, a byddai’n rhydd i ddiwygio polisi cyllidol. Gan na fyddai Cymru yn gorfod dilyn polisi’r TG ar unrhyw bwnc, mae paratoi ffigyrau tylwyth teg wedi eu selio ar wariant y TG er mwyn ‘profi’ na fydd Cymru yn gallu fforddio annibyniaeth yn hurt bost.
Pe bai Cymru yn talu ei rhan y pen o ddyled genedlaethol y TG, byddai’n golygu £32bn o ddyled genedlaethol i’w dalu, a hefyd y gwasanaethau cyhoeddus i’w cyllido. Ond mae rhan fawr o’r ddyled wedi casglu trwy gynorthwyo banciau yn Llundain, paratoi gemau Olympaidd Llundain; arfau niwclear; rhyfel anghyfreithlon; isadeiledd yn Lloegr; cynnal brenhiniaeth Lloegr. Mae dadl gref nad dyled Cymru i’w dalu ydi hwn, felly mae llawer o bwyntiau i’w negodi i lefel is na’r uchafswm £26.58bn sy’n dderbyniol o dan y rheol 60% dyled i GDP ar gyfer mynediad i’r Ewro-dir. Mae cynsail i ganslo dyled genedlaethol yn esiamplau’r India ym 1947 a oedd heb ddyled tramor ar annibyniaeth, a Gwladwriaeth Rydd yr Iwerddon ym 1925, pan ohiriwyd yr amod eu bod yn talu eu rhan o ddyled genedlaethol Prydain o dan y Cyfamod Eingl-Wyddelig 1921.
Mae pob gwlad angen benthyg er mwyn sicrhau llif cyson o arian, a ni fyddai Cymru’n wahanol. Yn seiliedig ar Reol Buddsoddiad Cynaliadwy (SIR) y Trysorlys, fe allai Cymru fenthyca hyd at £17.2bn y flwyddyn – 40% o GDP ym mhob blwyddyn o’r cylchrediad economaidd – a dal bod yn gyllidol ddiogel. Gan gofio arbedion Cymru annibynnol, mae’n debyg mae dim o’n £3bn y flwyddyn y byddai Cymru angen benthyg, ac mae hyn yn tybio fod GDP yn aros yr un fath.