Am Gymru, gweler yr Alban?
Ble fyddai pleidlais ‘ie’ mewn refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban yn gadael Cymru?
Yn niwedd y 19eg ganrif, yr oedd yn yr Encyclopaedia Britannia y cofnod gwarthus ‘For Wales, see England.’ Bron i ganrif yn ddiweddarach, yr oedd un o haneswyr mwyaf blaenllaw Cymru, K.O. Morgan yn myfyrio, yn sgil datganoli, y gallem fod yn dyst i ddywediad newydd ‘Am Gymru – gweler yr Alban’. Ei farn ef oedd, er bod llawer o debygrwydd rhwng achos yr Alban a’r achos Cymreig, fod y gwahaniaethau hanesyddol yn arwyddocaol ac y buasent yn gwneud trosi syml o’r Alban i Gymru yn anghywir ar y gorau ac yn beryglus o gamarweiniol ar ei waethaf.
Mewn llawer ffordd, cadarnhawyd ei ddadl gan ddeinameg datganoli yn y ddwy wlad. Yn yr Alban bu twf enfawr yn y gefnogaeth i’r SNP ac y mae Annibyniaeth i’r Alban yn bosibilrwydd gwirioneddol a drafodir fel polisi ymarferol yn hytrach na dyhead haniaethol. Yng Nghymru, ar y llaw arall, cyson, yn hytrach na sydyn, fu twf Plaid Cymru, ac er y byddai’n hawdd dadlau mai datganoli bellach yw ewyllys sefydlog pobl Cymru – gweler y pôl diweddaraf gan gomisiwn y Cynulliad yn dangos mai lleiafrif hanesyddol bychan sydd yn awr o blaid dileu’r Cynulliad – prif lwybr ein dadl gyfansoddiadol ar hyn o bryd yw a ddylai’r Cynulliad dderbyn pwerau deddfu oll ar y tro trwy refferendwm neu yn hytrach ennill y pwerau hyn (gyda chaniatâd San Steffan) fesul dipyn.
Trafodir y ddadl gyfansoddiadol hon yn rheolaidd fel creu Senedd go-iawn (fel yr Alban) yng Nghymru. Ond y mae perygl, tra bod Cymru‘n trafod cymryd ambell i gam ansicr tuag at y llinell gychwyn, mae’r Albanwyr eisoes ar eu ffordd ac yn tynnu at y llinell derfyn. Yn wir, gellid yn hawdd gofyn beth allai ddigwydd i Gymru petai’r Alban yn dod yn annibynnol?
Er bod K.O. Morgan yn ein rhybuddio rhag trosi’n syml o’r Alban i Gymru, a hynny’n iawn, mae’n amhosibl dychmygu sefyllfa lle mae dadl gynyddol fanwl a pherthnasol yn yr Alban yn methu â chael effaith ar feddwl am ddatganoli yng Nghymru. Felly i ddechrau, yn union fel ym 1997, bydd y ddadl yn yr Alban yn sicr yn cael effaith yng Nghymru. Mae hyn yn weddol syml, ond beth fydd yn digwydd os caiff Llywodraeth yr SNP fwyafrif yn Senedd yr Alban i alw am refferendwm annibyniaeth rywbryd yn 2010? Byddai sefyllfa o’r fath wedi ymddangos yn annhebygol ddiwedd 2007 ond o gofio bod Llafur yn herio’r SNP i roi eu cardiau ar y bwrdd, peidiwch â betio yn erbyn refferendwm ar Annibyniaeth yr Alban cyn etholiadau 2011. Fe godai refferendwm ar Annibyniaeth yr Alban nifer o gwestiynau yn y cyd-destun Cymreig.
Y cyntaf a’r symlaf fyddai amseru ein refferendwm ni. Y mae rhai a fyddai’n dadlau y byddai cynnal y ddau refferendwm yr un pryd yn peri dryswch ym meddyliau’r pleidleiswyr ac yn annog pleidleiswyr yng Nghymru (er gwell neu er gwaeth) i feddwl y buasent, trwy bleidleisio am bwerau deddfu, yn pleidleisio dros fesur llawnach o lawer o Ymreolaeth. Ar y llaw arall, gallech ddadlau y gallai cynnal dau refferendwm tua’r un pryd arwain at ddadl ddifrifol a phwysig ledled y DG am ddyfodol cyfansoddiadol Prydain. Gallai hyn mewn gwirionedd arwain ar ddadl fwy deallus a mwy o ymdriniaeth o fater Cymru yng nghyfryngau’r DG.
Byddai pethau’n fwy cymhleth os ceir refferendwm amlddewis yn yr Alban gydag ymreolaeth gyllidol yn cael ei gynnig i bobl yr Alban. Mewn sefyllfa o’r fath, gallai rhywun fod yn weddol siŵr y byddai ymreolaeth gyllidol – polisi sy’n amlwg yn cael ei gefnogir yn glir mewn polau piniwn yn yr Alban a chan lawer o’r prif bleidiau a’r gwleidyddion – yn ennill y dydd. Byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar Gymru gan y byddai, yn ddiamau, yn arwain at adolygu Fformiwla Barnett sydd yn amlwg yn annheg.
Ond beth petai’r Albanwyr yn pleidleisio dros annibyniaeth? Y peth cyntaf i’w gofio yw bod llywodraeth yr SNP yn sôn am geisio mandad i gychwyn trafodaethau gyda llywodraeth y DG am annibyniaeth. Felly, yn sicr fe geid cyfnod o drafod manwl, lle byddid yn rhoi cnawd am esgyrn y trefniadau am ddod yn annibynnol. Yn y tymor hwy, byddai’r trafodaethau hyn yn amlwg yn batrwm ar gyfer trafodaethau tebyg yn y cyd-destun Cymreig. Ond ni ddylem anwybyddu chwaith y newidiadau enfawr a ddeuai i’r rhai ohonom fyddai ar ôl yn sgil annibyniaeth i’r Alban.
Lle buasem ni’n byw, i ddechrau? Crëwyd Prydain Fawr gydag uno coronau’r Alban a Lloegr trwy Ddeddf Uno’r ddwy wladwriaeth sofran ym 1707. Byddai diddymu’r uniad yn gadael yr Alban a Lloegr neu, a bod yn fwy manwl, Lloegr Fwy. Nid awgrymu am funud yr wyf y byddai’r sawl fyddai’n meddwl am enw i weddill y DG yn dewis yr enw Lloegr Fwy, ond o gofio poblogaeth enfawr a thra-arglwyddiaeth economaidd Lloegr yn yr hyn fyddai ar ôl, gallai Lloegr Fwy fod yn ddisgrifiad manwl o’r wladwriaeth hon. Bryd hynny, byddai’r achos dros drafodaeth sylfaenol o’r berthynas rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon – ynghyd â’r posibilrwydd yn fy marn i o barhad trafodaethau gyda’r Alban ac Iwerddon – yn agos y drws ar amrywiaeth o bosibiliadau newydd a chyffrous.
Mae rhagfynegi’r dyfodol yn gamp beryglus i unrhyw un, ond yn wir, gallwn fod yn syllu i ludw llwyd y wladwriaeth Brydeinig, ac yn eu lle, efallai, byddai modd cael partneriaeth o wladwriaethau cyfartal a pherthynas fwy cadarnhaol o lawer rhwng gwledydd yr ynysoedd hyn. Mae Cymru fel petai wedi ei thynghedu i ddilyn yn hytrach nac arwain yn y broses hon ar hyn o bryd, ond yn hwyr neu’n hwyrach, rhaid cynnal y dadleuon hyn gyda hyder a gweledigaeth, ac wrth wneud hynny, gallwn o’r diwedd haeddu’r disgrifiad o ‘Gymru’, yn hytrach na chroesgyfeiriad oddi wrth y naill neu’r llall o’n cymdogion agos.
Dafydd Trystan
Helpwch ni i feithrin cenhedlaeth GallCymru. Bydd eich rhodd yn helpu'r ymgyrch tuag at annibyniaeth.

Sylwadau diweddar
Dangosir sylwadau Cymraeg yn unig.